SL(6)540 – Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) (Cymru) 2024

Cefndir a diben

Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) 2017 (“Deddf 2017”) i fewnosod Atodlen 21A newydd (Rhyddhad ar gyfer Safleoedd Treth Arbennig) sy’n darparu ar gyfer rhyddhad newydd rhag treth trafodiadau tir (“LTT”) ar gyfer trafodiadau cymhwysol o dir mewn safle treth arbennig.

Mae’r Memorandwm Esboniadol sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau[1] hyn yn nodi y bydd hyn yn cynnwys:

“porthladd(oedd) rhydd dynodedig ac, o bosibl yn y dyfodol, unrhyw barth(au) buddsoddi dynodedig yng Nghymru.

…Mae'r cymhellion treth sy'n ymwneud â safleoedd treth arbennig, gan gynnwys y rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir, yn ysgogwyr allweddol o ran y rhaglen Porthladdoedd Rhydd a bwriedir iddynt helpu safleoedd i ddenu buddsoddiad preifat a chyflawni amcanion polisi'r rhaglen Porthladdoedd Rhydd a'r rhaglen Parthau Buddsoddi yng Nghymru.”

Mae paragraff 2 o’r Atodlen 21A newydd a fewnosodir gan y Rheoliadau hyn yn cymhwyso’r rhyddhad LLT newydd i un safle – safle treth arbennig y Porthladd Rhydd Celtaidd[2] – gydag effaith o 26 Tachwedd 2024.

Gweithdrefn

Cadarnhaol drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o’r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo’r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd pwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y tri phwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.3(i) – ei fod yn codi tâl ar Gronfa Gyfunol Cymru neu ei fod yn cynnwys darpariaethau sy’n ei gwneud yn ofynnol i daliadau gael eu gwneud i’r Gronfa honno neu i unrhyw ran o’r llywodraeth neu i unrhyw awdurdod lleol neu gyhoeddus yn gydnabyddiaeth am unrhyw drwydded neu gydsyniad neu am unrhyw wasanaethau sydd i’w rhoi, neu ei fod yn rhagnodi swm unrhyw dâl neu daliad o’r fath.

Mae adran 25 o Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 yn darparu bod yn rhaid i Awdurdod Cyllid Cymru dalu symiau a gesglir wrth arfer ei swyddogaethau, gan gynnwys LTT a gesglir, i Gronfa Gyfunol Cymru.

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer rhyddhad rhag y dreth trafodiadau tir ar gyfer trafodiadau penodol sy’n ymwneud â thir sydd wedi’i leoli o fewn safle treth arbennig hyd at 30 Medi 2029.

2.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Yn ôl y Memorandwm Esboniadol:[3]

“… Er mwyn cymhwyso'r rhyddhad hwn rhag y dreth trafodiadau tir at unrhyw safleoedd treth arbennig newydd yn y dyfodol (boed yn borthladdoedd rhydd neu'n barthau buddsoddi) neu wneud unrhyw ddiwygiadau i ardaloedd safleoedd treth arbennig sy'n bodoli eisoes, bydd angen diwygio… [Deddf 2017]… drwy reoliadau pellach.. Byddai angen i reoliadau o'r fath gael eu cymeradwyo gan y Senedd hefyd.

3.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Memorandwm Esboniadol hefyd yn cadarnhau[4] bod y rhyddhad LTT newydd yn gymhorthdal, y mae “Cynllun Rheoli Cymorthdaliadau arfaethedig ar gyfer y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru” wedi’i gyflwyno i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (“yr Awdurdod”) mewn perthynas ag ef yn unol ag adran 31 o Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Mae’r Memorandwm yn nodi ymhellach y disgwylir adroddiad gan yr Awdurdod ar y cynllun arfaethedig erbyn 1 Tachwedd 2024. Mae’n dweud:

“…Ar ôl cyfnod 'pwyllo' gorfodol a chyfle i ystyried adroddiad yr Awdurdod (ac os oes angen, gwneud diwygiadau i'r cynllun arfaethedig yng ngoleuni hynny), rhagwelir y bydd y cynllun hwn yn cael ei gofrestru ar wefan cronfa ddata Tryloywder cymorthdaliadau'r DU fel sy'n ofynnol o dan Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022 Bydd y cofrestriad hwnnw wedi digwydd cyn y ddadl a'r bleidlais yn y Senedd ar wneud y Rheoliadau.”

Felly, gofynnir i’r Llywodraeth:

1.     esbonio’r rhesymeg dros osod y Rheoliadau hyn gerbron y Senedd cyn i’r Awdurdod gwblhau ei ystyriaeth o’r cynllun arfaethedig; a

2.     cyn dadl y Senedd ar y Rheoliadau, gadarnhau a yw’r Awdurdod wedi codi unrhyw bryderon mewn perthynas â’r rhyddhad newydd rhag y dreth trafodiadau tir ac, os felly, ymateb y Llywodraeth.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru i'r trydydd pwynt adrodd rhinweddau.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad

28 Hydref 2024

 



[1] Tudalen 2, paragraffau 1.1 ac 1.5

[2] Yr ardal a ddynodwyd gan Lywodraeth y DU yn ardal arbennig gan Reoliadau Dynodi Safleoedd Treth Arbennig (Porthladd Rhydd Celtaidd) 2024/1035 a wnaed ar 16 Hydref 2024.

[3] Tudalen 3, paragraff 2.3

[4] Tudalen 4, paragraff 3.4